Dyfed Edwards
Er bod Grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd bellach yn dal y mwyafrif o seddau ar Gyngor Gwynedd, mae’r grŵp wedi penderfynu peidio â manteisio’n “wleidyddol” ar hyn, meddai arweinydd y grŵp.
O dan gyfansoddiad y Cyngor, mae gan Blaid Cymru’r hawl i reoli pob pwyllgor, gan sicrhau bod ganddynt fwyafrif clir dros y grwpiau eraill.
Mae’r Is-etholiadau diweddar ym Mhenrhyndeudraeth a Blaenau Ffestiniog yn golygu bod gan y blaid 38 o seddau o’r 75 ar gorff llywodraethu’r llywodraeth leol yng Ngwynedd.
“Mae ein llwyddiant diweddar yn ennill seddi ledled Gwynedd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref fel y blaid fwyafrifol yng Ngwynedd,” meddai Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards.
‘Pobl yw’r flaenoriaeth’
“Er gwaetha’r ffaith ein bod ni bellach yn rheoli’r Cyngor, dwi’n teimlo nad nawr yw’r amser iawn i ni ddefnyddio’n pŵer a gwneud newidiadau ysgubol. Mae’r cyd-destun ariannol presennol a’r angen i ni foderneiddio gwasanaethau yn golygu mai Gwynedd a’i phobl yw ein blaenoriaeth, ac nid symudiadau gwleidyddol.”
Dywedodd fod pobl Gwynedd yn “haeddu Cyngor sy’n gallu gweithio gyda’i gilydd” er mwyn “cynnal a gwella gwasanaethau gan roi buddiannau’r bobl leol yn gyntaf.”
Dywedodd yr arweinydd y bydd yn gwneud y cynnig hwn – sy’n groes i gyfansoddiad Cyngor Gwynedd – mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor ddydd Iau yma.
“Mae ’na amser i wleidydda, ond nid rŵan yw’r amser cywir. Dyma’r cyfnod pan ddylai’r pum grŵp ar y Cyngor gydweithio gan roi buddiannau’r bobl rydym yn eu cynrychioli yn gyntaf,” meddai Dyfed Edwards.