Mae Heddlu De Cymru wedi enwi’r ddynes, 38, a gafodd ei llofruddio yn nhref Pontypridd dros y penwythnos.

Bu farw Sarah Hassall o ardal Chelmsford, Essex yn dilyn digwyddiad mewn cyfeiriad yn Llys Graig Tŷ Wion, Pontypridd, fore Sul (Hydref 6).

Mae dyn lleol, 37, yn dal i fod yn y ddalfa mewn cysylltiad â’i marwolaeth.

Roedd Sarah yn gyn aelod o’r Llu Awyr a Chorfflu’r Peirianwyr Brenhinol. Roedd hefyd yn ddringwr creigiau profiadol ac yn fam i ddau o blant, Owain ac Evan.

“Sarah oedd fy ffrind gorau ac fe gyffyrddodd â bywydau nifer ar hyd y ffordd,” meddai ei theulu mewn teyrnged iddi.

“Fe fyddwn ni nawr yn galaru amdani, gan ddiolch am y cyfnod byr y treulion ni yn ei chwmni.”