Yn dilyn yr helyntion yn Seland Newydd dros y penwythnos, mi fyddech chi’n credu mai rygbi fyddai’r pwnc llosg rhwng criw  o Ffrancwyr sydd wedi dod draw i Gymru i dreulio amser gyda disgyblion 14 a 15 blwydd oed yng Ngheredigion.

Ond yn ôl athrawes Ffrangeg yn Ysgol Uwchradd Tregaron, rygbi yw’r peth olaf ar eu meddyliau ar ol y gem fawr.

Mae 17 o fechgyn a 10 o ferched 14 a 15 oed o Limoges yn Ffrainc wedi  dod i aros ym Mhentre Bach ym Mlaenpennal o nos Sul tan fore Gwener nesaf i dreulio amser gyda disgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae’r bobl ifanc yn rhannu profiadau a sgyrsiau am ddiwylliant, amgylchedd a phrofiadau eraill – ond nid rygbi, mae’n ymddangos.

Dim sôn am rygbi

“Fe ddywedon ni rhywbeth bore ‘ma am y gêm Rygbi, ond roedd yr athrawes o Ffrainc wedi dweud ei bod wedi siarad gyda’i disgyblion yn barod ac wedi dweud wrthyn nhw i beidio a dweud dim. Maen nhw wedi siarad bellach – ond druan a’r ref, y fo sy’n cael y bai am bopeth,” meddai Geinor Cuvilliev, athrawes Ffrangeg yn yr ysgol wrth Golwg360.

“A dweud y gwir, dw i’n credu mai’r rygbi yw’r peth diwethaf maen nhw’n siarad amdano. Maen nhw wedi bod yn gofyn cwestiynau fel – beth y chi’n hoffi gwneud? Pa gerddoriaeth y’ chi’n hoffi… Does dim llawer o ddiddordeb gyda nhw yn y rygbi – ac mae gan y merched lot o ddiddordeb yn y bechgyn o Ffrainc,” meddai.

‘Croesi pob ffin’

Ychwanegodd Geinor Cuvilliev: “Roedd e’n eithaf diddorol, o fewn pum munud o gwrdd ei gilydd, roedden nhw’i gyd wedi tynnu ei Smartphones mas ac yn rhannu cyfeiriadau Facebook… Mae’n amlwg bod y Smartphone yn gallu croesi pob ffin,” meddai.

Mae’r prosiect yn galluogi ysgolion i wneud partneriaethau  â gwledydd eraill.

Mae pedair ysgol yn rhan o’r cynllun rhyngwladol i gyd gan gynnwys Ysgol Tregaron, ysgol yn Limoges, Ffrainc, Sbaen a Gwlad Pwyl.

Dim ond disgyblion o Ffrainc sydd ym Mhentre Bach yr wythnos hon. Fe fydd pobl ifanc Ysgol Tregaron yn mynd i Sbaen yn fuan.