Wrth i’r protestiadau yn erbyn toriadau’r Llywodraeth a’r banciau ledaenu, fe fu Côr Cochion yn arwain  ymgyrch yn erbyn y toriadau yng Nghaerdydd dros y penwythnos gan dargedu banciau yn y brifddinas.

Yn ôl Côr Cochion, mae Cymru’n wynebu colli 20,000 o swyddi yn y sector cyhoeddus gyda nifer cynyddol o’r ifanc yn methu cael gwaith. Mae aelodau’r côr yn credu mai’r banciau sy’n bennaf gyfrifol am yr argyfwng ariannol rhyngwladol.

Fe ddechreuodd y protestiadau yn erbyn y banciau yn Wall Street, Efrog Newydd ac eisoes, mae ymgyrchoedd tebyg wedi bod yn Llundain, Tel Aviv,  Madrid, Paris, yr Eidal, Groeg a rhannau eraill o Brydain ers 17 Medi.

‘Ble mae’r cyfiawnder?’

Fe fu Côr Cochion yn gorymdeithio ar hyd strydoedd y brifddinas oedd yn llawn cefnogwyr rygbi ddydd Sadwrn gan feddiannu bob banc am gyfnod o 20 munud yn ystod Diwrnod yn erbyn y Banciau.

Yn ol aelodau’r Côr, mae’r Ceidwadwyr wedi ymateb i’r argyfwng drwy dorri trethi o 1% i’r 70% sy’n berchen cyfoeth y wlad, tra bod 99% yn wynebu toriadau i wasanaethau iechyd, addysg, llyfrgelloedd a gwasanaethau i blant.

The Tories’  answer is tax cuts for the 1% who own 70% of the country’s wealth; while we, the 99%, suffer cuts to libraries, childrens services, health and education.

Yn ôl aelodau’r côr, fe fydd eu hymgyrch yn parhau hyd nes i’r Llywodraeth “ddangos mwy o drugaredd” tuag at y rhai sy’n dioddef o ganlyniad i’r toriadau, meddai’r trefnwyr.