Fe fydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Abertawe ddydd Mercher (Medi 18) i drafod bargeinion dinesig yng Nghymru.
Bydd y symposiwm yn gyfle i academyddion, gwleidyddion a’r rhai fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan bedair partneriaeth ranbarthol Cymru i ddod ynghyd i drafod y fford ymlaen.
Dyma’r ail ddigwyddiad o’i fath ar bwnc Bargeinion Dinesig, lle bydd ardaloedd Dinas Caerdydd, Bae Abertawe, Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru yn cael sylw.
Yn rhan o’r digwyddiad, fe fydd yna drafodaeth am lywodraeth ac am strategaeth ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru.
Mae’n cael ei drefnu gan Academi Morgan Prifysgol Abertawe, sy’n dwyn enw Rhodri Morgan, cyn-brif weinidog Cymru, a WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru).
Ymhlith y siaradwyr fydd yr Athro Kevin Morgan (Deon Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd), yr Athro Martin Jones o Brifysgol Stafford, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r bargeinion dinesig yng Nghymru.
‘Effaith drawsffurfiol’
“Bydd bargeinion dinesig yn cael effaith drawsffurfiol ar economïau rhanbarthol yng Nghymru, gan helpu i greu miloedd o swyddi â chyflog da wrth hefyd gau’r blwch rhyngom ni â rhannau mwy cyfoethog o’r Deyrnas Gyfunol,” meddai Rob Stewart, cadeirydd rhanbarth ddinesig Bae Abertawe.
“Yn ogystal, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Bargeinion Dinesig o ran helpu i gynyddu proffil Cymru fel lle i fuddsoddi ynddi, i ymweld â hi ac i fyw ynddi. Mae ganddynt rôl allweddol o ran creu Cymru fwy ffyniannus i breswylwyr a busnesau, nawr, ac i’r cenedlaethau i ddod.
“Yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn misoedd diweddar. Mae hyn yn cynnwys cymeradwyo dau brosiect cyntaf Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a disgwylir cymeradwyaeth debyg yn y misoedd i ddod.
“Bydd rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella bywydau pobl drwy fuddsoddiadau mawr mewn sectorau megis arloesi digidol, gofal iechyd ac ynni dim carbon, wrth hefyd ddiogelu ein diwydiant dur at y dyfodol. Mae hwn yn amser cyffrous i dde-orllewin Cymru.”
‘Cyfle amserol’
“Mae hwn yn gyfle amserol i asesu llwyddiant, neu ddiffygion, partneriaethau rhanbarthol a bargeinion dinesig yng Nghymru,” meddai’r Athro David Blackaby o Brifysgol Abertawe.
“Byddwn yn tynnu ar brofiadau bargeinion dinesig eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae’r gynhadledd hon yn addo bod yn gyfle gwych i gronni ein gwybodaeth a’n harbenigedd.”