Fe fydd dyn 55 oed yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd heddiw (dydd Iau, Medi 12) ar gyhuddiad o lofruddio.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i dŷ ar Heol Cydweli, Llanyrafon, Cwmbran fore dydd Mawrth (Medi 10) lle daethon nhw o hyd i gorff dyn 76 oed.

Cafodd dyn ei arestio ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon heddiw.

Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.