Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn, 76, yng Nghwmbrân.
Yn ôl y llu, mae dyn, 55, yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafodd y pensiynwr ei ddarganfod yn farw am 10.30yb heddiw (dydd Mawrth, Medi 10) mewn tŷ ar Heol Cydweli.
Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ar hyn o bryd, er bod swyddogion yn dal i fod yn yr ardal.
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar unwaith.