Mae dyn, 37, o Ferthyr Tudful yn cael ei holi gan yr heddlu yn dilyn marwolaeth dyn, 50, o Gwmbrân.

Fe gafodd yr heddlu eu galw ddydd Sul (Medi 8) ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i gorff ar ddarn o dir o fewn Gwarchodfa Natur Taf Fechan.

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw’n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd, ac mae swyddogion yn aros am ganlyniadau post mortem er mwyn gwybod beth oedd yr union achos.

Maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth gan yrwyr a fu’n gyrru ar hyd ffordd yr A465 rhwng Cefn Coed a Dowlais Top yn ystod yr oriau mân fore Sul.

Mae teulu’r dyn a fu farw wedi cael eu hysbysu ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.