Mae’r heddlu yn adnewyddu eu hapêl am dystion ar ôl i ddau berson gael eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain draffig ger Eglwysbach, Sir Conwy, ar benwythnos Gŵyl y Banc.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 18.35yh ar nos Sul, Awst 25, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A470 rhwng Glan Conwy a Thal-y-cafn ger mynedfa Gerddi Bodnant.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Honda Civic glas, a oedd yn teithio o gyfeiriad Llanrwst, ac Audi A3 gwyn a oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.
Cafodd gyrrwr yr Honda Civic ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Stoke lle mae’n parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau difrifol.
Cafodd gyrrwr a theithiwr sedd flaen yr Audi, yn ogystal â babi ifanc, eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans.
Mae’r gyrrwr a’r babi bellach wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty gyda mân anafiadau, ond bu’n rhaid trosglwyddo’r teithiwr benywaidd i’r ysbyty yn Stoke oherwydd difrifoldeb ei hanafiadau.
Dywed Heddlu’r Gogledd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw ar unwaith.