O naw o’r gloch ymlaen bore fory fe fydd Tafarn y Globe ym Mangor yng Ngwynedd yn gwerthu bacwn, selsig, coffi ac alcohol i’r cyhoedd.

Fe fydd hi awr yn hwyrach ar yr Harbour Master yn Aberaeron yng Ngheredigion yn cychwyn gwerthu cwrw, ac erbyn hynny fe fydd yr ail hanner rhwng Cymru a Ffrainc ar fin cychwyn.

Mae rheolwr yr Harbour Master sef Dai Morgan yn dweud bod llawer wedi dangos diddordeb mewn dod i’r dafarn ar gyfer y gêm yfory a 25 eisoes wedi archebu brecwast ymlaen llaw.

 ‘‘Roeddwn ar agor ag gyfer y gêm gyntaf o’r cystadleuaeth yn erbyn De Affrica ond yr roedd hi’n bach yn gynnar y penwythnos dwethaf yn erbyn Iwerddon’’ meddai.

‘‘Mi fyddwn yn gwerthu alcohol  o ddeg o’r gloch ymlaen, ac am £10 fe fyddwch yn gallu cael brecwast llawn, sudd oren a choffi.  Mae llawer wedi dangos diddordeb yma’n barod ac mae yna groeso i bawb.

“Ond nid ydym yn disgwyl i lawer o Ffrancwyr i fod yma’’, ychwanegodd.