Mae dyn, 24, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn ymosodiad yn nhref Llanelli dros y penwythnos.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn ardal Pemberton am tua 8yh nos Sadwrn (Awst 10).
Cafodd dyn, 53, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn y digwyddiad, ac mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Cafodd Ryan Matthew Edgington, o ardal Llys Cilsaig, Dafen, ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol a gwir niwed corfforol yn Llys Ynadon Llanelli heddiw (dydd Mercher, Awst 14).
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad gerbron Llys y Goron Abertawe ar Fedi 13.
Mae’r ddau ddyn arall a gafodd eu harestio yn dilyn y digwyddiad bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae’r ymchwiliad yn parhau ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar unwaith.