Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi llwyddo i ennill sedd Brycheiniog a Maesyfed gan y Torïaid – ac wrth wneud hynny, leihau mwyafrif gweithredol y Ceidwadwyr yn San Steffan i ddim ond un.
Jane Dodds sydd wedi’i hethol yn Aelod Seneddol yn yr is-etholiad a gynhaliwyd ddoe (dydd Iau, Awst 1).
Mae’n olynu Chris Davies, y Ceidwadwr a gollodd ei sedd wedi i dros 10,000 o’i etholwyr arwyddo deiseb i gael gwared arno wedi i lys ei gael yn euog o hawlio costau ffug.
Er hynny, roedd y blaid yn lleol wedi ei ddewis eto i sefyll yr is-etholiad.
Fe lwyddodd Jane Dodds i ennill 43.5% of o’r holl bleidleisiau, gyda Chris Davies yn cael 39%.
Fe fu ond y dim i’r blaid Lafur â cholli ei blaendal wrth sicrhau dim ond 5.3% yn y pôl, y tu ôl i’r Brexit Party ar 10.5%.
Y canlyniad yn llawn
Jane Dodds, Democratiaid Rhyddfrydol – 13,826 o bleidleisiau sef 43.5%, i fyny 14.3% ar ganlyniad etholiad 2017
Chris Davies, Ceidwadwyr – 12,401 sef 39%, i lawr 9.6%
Des Parkinson, Plaid Brexit – 3,331 sef 10.5%, i fyny 10.5%
Tom Davies, Llafur – 1,680 sef 5.3%, i lawr 12.5%
Lady Lily The Pink, The Official Monster Raving Loony Party – 334, sef 1%, i fyny 1%
Liz Phillips, UKIP – 242, sef 0.8%, i lawr 0.6%
31,814 o etholwyr Brycheiniog a Mesyfed wnaeth Fŵr pleidlais, sef 59.6%.
Mae gan Jane Dodds fwyafrif o 1,425.