Mae gwlad Pwyl yn gobeithio annog pobol ifanc i aros yn y wlad trwy dorri treth incwm.

Daeth y toriad treth i rym ar dydd Iau (Awst 1), ac mae’n golygu na fydd yn rhaid i weithwyr sydd dan 26 – ac yn ennill llai na £18,000 – dalu treth incwm personol o gwbwl.  

Mae disgwyl i’r newid gynyddu enillion dwy filiwn o Bwyliaid, ac mae Llywodraeth gwlad Pwyl yn disgwyl iddo annog pobol ifanc i ddychwelyd i’r wlad.

Mae’r Prif Weinidog, Mateusz Morawiecki, yn gobeithio bydd y cam yn rhwystro’r wlad rhag “gwaedu” ieuenctid.

Er bod y wlad yn profi twf economaidd cryf, mae cryn dipyn o’u hieuenctid yn dewis ei gadael er mwyn gweithio mewn gwledydd eraill.