Liam Fox
Mae Aelodau Seneddol y Blaid Lafur wedi bod yn ceisio dod â Downing Street i mewn i’r ddadl ynglŷn â chysylltiad yr Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox a’i gyfaill Adam Werritty.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, roedd Alun Michael, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, wedi herio David Cameron ynglŷn â adroddiadau bod un o’i brif ymgynghorwyr, Gabby Bertin, wedi gweithio gyda Adam Werritty yn y gorffennol.

Mae Gabby Bertin wedi cadarnhau ei bod hi wedi dod i gysylltiad â Adam Werritty pan oedd hi’n gweithio i Liam Fox cyn i’r Ceidwadwyr ddod i rym.

Mae hi hefyd wedi cadarnhau ei bod hi wedi gweithio i elusen ddadleuol Liam Fox, Atlantic Bridge, er mae’n dweud nad oedd hi’n gweithio yno pan oedd Adam Werritty yn gyfarwyddwr yr elusen.

“Roedd o’n rhywun roeddwn i’n ei nabod pa oeddwn i’n gweithio i Liam,” meddai. “Roedd Adam yn agos at Liam, does dim llawer mwy i’w ddweud am hynny.”

Dywedodd Gabby Bertin bod David Cameron yn ymwybodol ei bod wedi gweithio i Atlantic Bridge yn y gorffennol. Mae’r elusen bellach wedi dod i ben.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, mewn ymateb i gwestiwn arall gan Aelod Seneddol Llafur Llanelli Nia Griffith, dywedodd Mr Cameron y byddai’n ystyried darparu  rhestr o’r holl gyfarfodydd rhwng gweinidogion a staff Rhif 10 â Adam Werritty ers i’r Llywodraeth ddod i rym ym mis Mai 2010.