Bethan Jenkins
Mae criw o bobol ym Mhort Talbot wedi dod ynghyd i lansio gwefan newyddion eu hunain, gyda model gyllido arloesol, er mwyn llenwi’r bwlch mewn newyddion lleol.

Daeth papur newyddion olaf y dref yn ne Cymru i ben ddeng mlynedd yn ôl, ond ers hynny mae wyth newyddiadurwr lleol wedi dod at ei gilydd i lansio menter newyddion ar-lein arloesol er mwyn llenwi’r bwlch.

Daeth yr wyth at ei gilydd yn 2009, mewn ymateb i doriadau yn y wasg leol, a’r bwlch a adawyd ar ôl i bapur newydd y Port Talbot Guardian, oedd yn perthyn i gwmni Trinity Mirror, ddod i ben.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, ac mae’r wyth wedi lansio gwefan newyddion newydd o’r enw Port Talbot Magnet, sydd wedi ei ariannu gan gyfarwyddwyr a phartneriaid sydd â diddordeb yn y gwaith – gyda’r holl straeon yn cael eu cyfrannu’n wirfoddol.

‘Arloesol’

Wrth siarad ag un o brif gylchgronau’r diwydiant newyddiadurol, y Press Gazzette, dywedodd un o gyfarwyddwyr y fenter, Rachel Howells, eu bod wedi “sefydlu fframwaith sydd â sylfaen dda iawn er mwyn cynhyrchu newyddion lleol i Bort Talbot, ond ry’n ni eisiau gwneud rhywbeth arloesol, a rhywbeth sy’n tynnu pobol leol i mewn i’r broses.”

Mae’r model sydd gan y grŵp yn cael ei alw’n ‘Pitch-in!’, a’r egwyddor tu ôl i’r model yw bod cefnogaeth leol i’r wefan drwy gynhyrchu newyddion lleol, cael pobol leol i awgrymu straeon wrth newyddiadurwyr, noddi newyddiadurwyr i wneud gwaith ymchwil arbennig, noddi adrannau newydd, cynnal digwyddiadau codi arian i’r fenter, a gwirfoddoli gyda’r gwaith. Ac mae natur gydweithredol a chymdeithasol y fenter yn golygu bod pob elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth newyddion.

‘Edrych am atebion newydd’

Un o’r rhai sy’n croesawu mentergarwch y Port Talbot Magnet yw’r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins.

“Mae e’n gysyniad arloesol, a dwi’n gefnogol iawn ohono fe,” meddai Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru wrth Golwg360.

“Mae’n rhaid i ni feddwl am ffyrdd gwahanol o gynnal newyddiaduraeth yng Nghymru, yn lle dibynnu ar gwmniau sydd â gwahanol flaenoriaethau i bobol leol.”

Mae Bethan Jenkins yn aelod o Grŵp Gorchwyl y Cyfryngau yng Nghymru ac mae’n gobeithio y gall y grŵp gynnig argymhellion arloesol, tebyg i fenter y Port Talbot Magnet, i’r diwydiant yng Nghymru.

“Yng Nghymru dwi’n meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar y pethau y gallwn ni eu gwneud, yn lle cwyno am beth sydd eisoes wedi digwydd. Mae angen i ni fod yn fwy creadigol,” meddai.

Bydd y Grŵp Gorchwyl yn cyfarfod am y tro cyntaf yn y Cynulliad heddiw, ac yn clywed tystiolaeth gan aelodau ac academyddion blaenllaw y diwydiant.