Mae cwpl wnaeth gadw eu plentyn dyflwydd oed mewn cawell yn ei lofft wedi derbyn dedfryd o garchar wedi’i gohirio.

Roedd y rhieni’n cadw’r bachgen dyflwydd oed o Gwmbrân  wedi’i gloi  mewn cawell yn ei lofft yn gyson ac wedi rhoi’r llysenw  “plentyn y diafol” i’w mab.

Fe wnaeth yr Heddlu ddarganfod y bachgen wedi’i gloi mewn cawell ar ôl derbyn galwad  gan gymdogion fis Chwefror eleni.

Roedd teganau, blanced a photel babi yn y gawell hefyd – wedi’u gorchuddio mewn ysgarthion. Yn ôl meddygon, roedd crafiadau a chleisiau ar gorff y bachgen.

Fe wnaeth ei rieni ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ddoe ar ôl cyfaddef ei drin yn wael.

Fe gafodd y ddau 26 wythnos yn y carchar – wedi’i ohirio am ddwy flynedd gan y Barnwr, David Morris.

Fe gafodd y ddau orchymyn i wneud 200 awr o waith di-dâl ac maen nhw wedi derbyn gorchymyn goruchwyliaeth dwy flynedd.

Maen nhw hefyd wedi’u gwahardd rhag gweithio gyda phlant.

Mae mab y cwpl wedi’i roi mewn gofal maeth.