Mae un o dafarndai enwocaf Cymru, a gafodd ei difrodi gan dân ar ddechrau’r flwyddyn, bellach wedi ail-agor.
Mae’r Dyffryn Arms – ‘Tafarn Bessie’ i lawer – yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro, yn enwog am ei chwrw Bass sy’n cael ei gynnig yn syth o’r gasgen.
Ond er i’r lle orfod cau yn sgil tân ym mis Chwefror, mae adolygiadau ar wefan Tripadviser yn nodi bod drysau’r dafarn wedi bod ar agor i gwsmeriaid ers diwedd mis Mehefin.
“Dw i’n falch o ddweud bod y gem hwn ar agor unwaith eto,” meddai un adolygydd.
“Fe ges i ddiod yno ar ddydd Gwener. Mae’r bar wedi cael ei adnewyddu. Dyw Bessie ddim yn ôl eto, gan nad yw’r gwaith ar y chwarteri byw wedi ei gwblhau eto.”
Mae adolygiadau eraill ar Tripadviser yn dangos bod y Dyffryn Arms wedi croesawu ymwelwyr o bedwar ban y byd yn ddiweddar, gan gynnwys grŵp o gerddwyr o Ogledd Carolina yn yr Unol Daleithiau.