Mae dyn wedi marw wedi i’w gar blymio oddi ar y ffordd ym Mhowys.
Roedd wedi bod yn gyrru ar hyd yr A483 ger Llanbister, a gwyrodd y car oddi ar yr heol am dua 11.50 yr hwyr ar dydd Iau (Gorffennaf 11).
Y gyrrwr oedd yr unig berson yn y car.
Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu hanfon i’r fan, ynghyd ag ambiwlans.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i’r achos ac yn apelio am wybodaeth.