Mae yna “bosibiliad cryf” y bydd Neil McEvoy yn anfon cais yn y dyfodol i ailymuno â Phlaid Cymru.

Dyna ddatgelodd yr Aelod Cynulliad mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd, ddiwrnod yn unig wedi iddo dynnu ei gais i ail-ymuno yn ôl.

Cafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd ym mis Mawrth 2018 ar ôl iddo “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid” ac ym mis Mawrth eleni cyflwynodd gais i ailymuno.

Fis diwethaf cafodd y panel a fu’n ystyried ei gais ei ddisodli – wedi i’w waith gael ei rhyddhau i’r wasg – a ddoe mi gyhoeddodd na fyddai’n parhau a’i gais.

Bellach mae’n ymddangos ei fod yn ystyried anfon cais arall at Blaid Cymru yn y dyfodol.

“Mae yna bosibiliad cryf y bydda i’n cyflwyno cais unwaith eto i ymuno â Phlaid Cymru,” meddai. “[Dw wedi] encilio fel bod modd i mi frwydro rhywbryd arall.

“Doedd dim gwerth i mi frwydro brwydr nad oes modd i mi ei ennill. Dw i’n awyddus i sefyll dros Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd.

“A dyma’r pwynt allweddol, mae aelodau Plaid Cymru yn awyddus i mi sefyll tros Blaid Cymru yng ngorllewin Caerdydd.”

Tra’n siarad â golwg360 wfftiodd y syniad o ymuno â neu greu plaid arall, gan nodi “mae [ei grŵp ef] Propel yn cefnogi Plaid Cymru, a dw i ddim yn bwriadu ymuno â Phlaid arall.”

Ystyried ail-ymuno… eto

Yn ystod y gynhadledd mi honnodd Neil McEvoy bod sawl un o fewn y blaid yn ei wrthwynebu, ac wedi ceisio ei rhwystro rhag ailymuno.

Er gwaetha’r gwrthwynebiad a’r diffyg croeso, dywedodd nad oedd am gefnu ar y blaid, ac awgrymodd mai aelodau llawr gwlad sy’n ei ysgogi i ddal ati.

“Dw i eisiau i Blaid Cymru ddychwelyd i beth oedd hi o’r blaen – a’r hyn y dylai fod. Mae’n blaid ddemocrataidd a geith aelodau ddewis polisïau…,” meddai.

“Dw i’n ystyried ailymuno oherwydd yr hyn mae aelodau wedi dweud wrtha’ i. Cawn weld beth ddigwyddith. Mae angen newidiadau.”