Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau yn ymwneud â bom yng Nghastell-nedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i orsaf drenau Castell-nedd toc wedi 5.40yb heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 9) yn dilyn adroddiadau bod dyn yn gwneud bygythiadau ar drên.
“Cafodd dyn, 35, ei arestio ar amheuaeth o gyfrannu neu gyfleu gwybodaeth ffug yn gysylltiedig â bom,” meddai Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
“Mae wedi cael ei gludo i’r ddalfa lle mae ymholiadau yn parhau.”
Dywed yr heddlu ymhellach fod trên wedi cael ei archwilio’n fanwl gan dimoedd arbenigol, ond na ddaethon nhw o hyd i’r un bom.
Cafodd rhai gwasanaethau trenau eu effeithio gan y digwyddiad y bore yma, ond maen nhw bellach yn weithredol eto, yn ôl adroddiadau.