Fe allai defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol gael ei wneud yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Mae Bil newydd yn cael ei roi gerbron Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 8) sy’n ceisio gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau o’r fath.

Rhesymau moesegol sydd y tu ôl i’r Bil Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau Teithiol Cymru, sy’n cael ei gyflwyno ar ôl ymgynghoriad diweddar ble cafwyd 6,500 o ymatebion.

Byddai’r Bil yn gweld y defnydd o anifeiliaid fel camelod, sebraod a cheirw Llychlyn yn cael eu gwahardd mewn syrcasau.

Dwy syrcas deithiol sydd yn defnyddio anifeiliaid gwyllt yng ngwledydd Prydain ond maen nhw’n dod i Gymru yn rheolaidd, a phan maen nhw’n dod, mae bob tro galw i’w gwahardd.

Byddai’r ddeddf newydd yn ei gwneud hi’n drosedd defnyddio neu ganiatáu person i ddefnyddio anifail gwyllt yng Nghymru a byddai unrhyw un sy’n euog o hyn yn wynebu dirwy.

“Urddas a pharch”

“Mae’r ffaith bod nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu cadw gan syrcasau teithiol yn gostwng yn arwydd clir nad yw’r math hwn o adloniant mor boblogaidd gyda’r cyhoedd ag yr oedd ar un adeg,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

“Mae gan anifeiliaid gwyllt deimladau, a dylid eu trin ag urddas a pharch – yn hytrach na’u hecsbloetio er ein hadloniant ni mewn syrcasau teithiol.”

Yn ôl Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr RSPCA ar gyfer Cysylltiadau Allanol, Claire Lawson hefyd, “mae cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn arfer sy’n perthyn i’r gorffennol.”

“Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ledled Cymru sydd o blaid gwahardd yr arfer, ac mae’n wych bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ac wedi gweithredu dros yr anifeiliaid hyn.”

Mae disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw, a bydd y Prif Weinidog yn rhoi Datganiad Deddfwriaethol am y Bil yn ystod Cyfarfod Lawn y Senedd fory (Dydd Mawrth, Gorffennaf 9).