Mae perchnogion ceffylau yn y gogledd yn cael eu cynghori i gadw eu hanifeiliaid adref yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o ffliw ceffylau.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd trefnwyr Sioe Gogledd Cymru, Caernarfon eu bod nhw wedi gorfod gohirio’r digwyddiad dros y penwythnos wrth i gystadleuwyr dynnu’n ôl oherwydd y feirws.
Ers hynny, mae trefnwyr sioeau bach eraill yn y gogledd wedi penderfynu mai gwell fyddai gohirio hefyd.
Yn ôl y cwmni milfeddygol o Fangor, Bodrwnsiwn Equine, maen nhw wedi derbyn cadarnhad gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd Anifeiliaid fod dau leoliad yng Ngwynedd a Môn wedi cael eu heffeithio gan y ffliw yn ddiweddar.
Mae lle i gredu hefyd fod y feirws wedi ymledu i ardal Dolgellau.
Mewn datganiad ar Facebook, dywed y milfeddygon: “Yr hyn sy’n gyffredin rhwng y ddau leoliad [yng Ngwynedd a Môn] yw i’r ddau fod yn bresennol yn Sioe Llanrwst y penwythnos diwethaf.
“Rydym yn annog perchnogion i gadw eu hanifeiliaid adref am y tro hyd nes bod lledaeniad y feirws yn cael ei asesu’n well.”
Ymhlith y sioeau bach na fydd yn cael eu cynnal eleni oherwydd y ffliw mae Sioe Clwb Marchogaeth Lloc a’r Rhanbarth, a Sioe Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig Gwynedd.
Fe fydd Sioe Fawr Llanelwedd yn cael ei chynnal ymhen pythefnos ac mae golwg360 wedi gofyn i drefnwyr y sioe am ymateb.