Mae dyn fu dan glo yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam yn honni fod cyffuriau caled a chwrw yn rhemp yno, a bod y carcharorion yn cael rhwydd hynt i gynnal partis.

Carchar Berwyn yw’r mwyaf yn Ewrop ac mae wedi ei godi i ddal 2,106 o garcharoion – 1,301 sydd yno ar hyn o bryd.

Bu ‘Christopher’ yn y carchar am 11 mis am ymosod, ac mae wedi dweud wrth ITV News bod y diffyg disgyblaeth yng ngharchar Berwyn wedi bod yn sioc iddo.

“Mae yn rhaid i’r carchar gael ei redeg fel carchar, ar y funud mae yn cael ei redeg fel clwb ieuenctid,” meddai’r cyn-garcharor wrth ITV News.

“Os ydach chi eisiau cocên mi fedrwch chi gael cocên, os ydach chi eisiau crac fe gewch chi grac, ac os ydach chi eisiau heroin mi gewch chi heroin…

“Doedd fawr o wahaniaeth weithiau rhwng bod yn Berwyn a bod adref mewn parti ar y penwythnos.

“Roedd drysau [eich celloedd] ar agor ac roeddech chi yng nghelloedd pobol eraill, roedd y gerddoriaeth yn uchel, roedd y cwrw yn llifo, roedd cyffuriau ar gael.”

Prif gonsyrn Christopher oedd “diffyg rheolaeth” swyddogion carchar dibrofiad – mae 89% o staff Berwyn yn nwy flynedd gyntaf eu hyfforddiant.

Yn ôl Cymdeithas Swyddogion Carchardai, mae 80 o swyddogion carchar Berwyn wedi ymddiswyddo yn y 12 mis diwethaf.

Mae ITV News yn dweud bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn amau’r ffigwr hwnnw, ond wedi methu darparu eu ffigyrau eu hunain.

Ymateb yr awdurdodau

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud wrth ITV News bod “gwaith staff Berwyn wedi ei ganmol gan swyddogion craffu annibynnol…

“Yn anffodus, mae’r defnydd o gyffuriau yn effeithio ar garchardai ledled y wlad, a dyna pam ein bod yn… gwario miliynau o bunnau i fynd i’r afael â’r broblem…

“Mae timau chwilio penodol, cŵn canfod cyffuriau a sganwyr o’r safon uchaf yng ngharchar Berwyn.”