Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn bwriadu gwario £150m ar adeiladu dros 900 o dai cyngor yn y deng mlynedd nesaf, yn ôl cynlluniau.

Mae’r cynllun a gyflwynwyd gerbron cynghorwyr ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 2) yn cael ei ystyried yr un mwyaf uchelgeisiol o ran datblygu tai cyngor o fewn y sir ers yr 1970au, wrth iddo gynnig bod y Cyngor yn adeiladu amrywiaeth o dai mewn pedair ardal.

Bydd y buddsoddiad mwyaf yn ardal Llanelli, lle mae dros 400 o dai newydd wedi’u cynllunio.

Mae bron 200 wedi’u cynllunio ar gyfer Caerfyrddin a gorllewin y sir, yn ogystal â Rhydaman a Dyffryn Aman, a bydd 100 yn cael eu hadeiladu mewn ardaloedd gwledig.

‘Cynllun uchelgeisiol’

Mae’r Cyngor yn bwriadu cyflawni adeiladu 932 o dai cyngor dros gyfnod o ddeng mlynedd mewn tri cham.

Bydd £53m yn cael ei fuddsoddi yn ystod y cam cyntaf, gyda 300 o dai yn cael eu hadeiladu yn ystod y tair blynedd nesaf, gyda £44m yn dod o gyllid y Cyngor ei hun a £9.3m yn dod o grantiau allanol.

Mae’r Cyngor hefyd yn gobeithio y bydd y buddsoddiad yn hybu’r economi leol gan greu cyfleoedd gwaith.

“Rydym wedi ystyried yn ofalus lle mae’r angen mwyaf am dai ledled y sir, a’n nod yw cyflawni cynllun a fydd yn cynnig tai mewn cymunedau lle mae pobol eisiau byw …” meddai’r Cynghorydd Linda Evans, aelod o’r bwrdd gweithredol sy’n gyfrifol am bortffolio Tai.

“Rydym wedi cyflawni cymaint yn barod yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd buddsoddiad a’r ymrwymiad newydd hyn yn helpu i fodloni’r galw am dai cymdeithasol cost isel sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”