Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi datgan fod yna argyfwng hinsawdd ac ecolegol, ac wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030.
Fe ddaw’r penderfyniad yn dilyn pleidlais unfrydol ar gynnig a roddwyd gerbron gan grŵp o gynghorwyr trawsbleidiol.
Rhoddwyd y cynnig gerbron gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru), Joseph Welch (Annibynnol) a Graham Timms (Llafur), ac mae’n ymrwymo’r Cyngor i:
- Datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol ar unwaith;
- Ymrwymo i wneud yr awdurdod yn sero carbon net erbyn 2030 fan bellaf;
- Sefydlu grŵp tasg a gorffen i lunio cynllun clir o fewn 6 mis i gyflawni’r uchod, gan gynnwys ffyrdd o wella bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych;
- Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth ac adnoddau i’n galluogi i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella bioamrywiaeth;
- Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol hwn.