Mae disgwyl cynnydd o 64% yn nifer y galwadau ynghylch anifeiliaid yn cael eu dympio yng Nghymru yr haf hwn, yn ôl elusen RSPCA Cymru.

Daw’r rhybudd wrth i’r elusen ddatgelu iddyn nhw ateb 1,498 o alwadau yng Nghymru yn ystod misoedd yr haf (Mehefin, Gorffennaf, Awst) y llynedd, o gymharu â 911 yn ystod misoedd y gaeaf (Rhagfyr, Ionawr, Chwefror).

Yng Ngheredigion y cafwyd y nifer mwyaf o alwadau yn ystod yr haf, sef 164, ond dim ond 20 o alwadau a gafwyd yn sir Merthyr Tudful.

Y cyfanswm o alwadau ledled Cymru a Lloegr yr haf diwethaf oedd 23,673.

Straen ar wasanaethau

Yn ôl Martyn Hubbard, uwch-arolygydd RSPCA Cymru, mae’r “cynnydd dramatig” yn ystod yr haf yn rhoi “straen mawr” ar wasanaethau.

“Does yna fyth esgus ar gyfer gadael anifail yn y modd hwn ac rydyn ni’n annog pobol sy’n methu ag ymdopi â’u hanifeiliaid anwes i gysylltu â ni neu elusennau eraill,” meddai.

“Mae ein hanifeiliaid anwes yn fodau synhwyrol ac yn ffrindiau da sy’n dibynnu arnom ni er mwyn eu hiechyd a’u hapusrwydd, felly dylai eu dympio fel hen ffôn symudol neu ddarn o sbwriel ddim bod yn opsiwn, byth.

“Mae’r cynnydd yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu hamddifadu yn ystod yr haf yn rhoi straen mawr ar ein harolygwyr, ein canolfannau a’n canghennau sy’n gorfod delio â’r anifeiliaid sydd wedi cael eu dympio.”

Yn ôl RSPCA Cymru, mae’r gost o gynnal canolfan anifeiliaid bron yn £30,000 y mis.