Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghori â thrigolion Cwm Dulais ynglŷn a chynlluniau i adeiladu canolfan ymchwil ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd ar safle gwaith glo brig.

Y nod yw lleoli’r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd ar y ffin rhwng Powys a Chastell-nedd Port Talbot ar safle’r gwaith glo brig a’r olchfa yn Onllwyn a Nant Helen.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y ganolfan “yn gweithredu fel ysgogydd ar gyfer arloesi, buddsoddi a thwf yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”

Mae’r cynlluniau ar ei chyfer yn cynnwys cylch cledrau trydan allanol ar gyfer profi trenau cyflym; canolfan ymchwil a thrac profi llinellol.

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn dweud bod disgwyl i’r ganolfan gynnal dros 150 o swyddi pan fydd yn llawn weithredol.

Agorodd cam cyntaf y briffio ynghylch y ganolfan ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 2) ac ni fydd yn cau tan Hydref 7.