Mae nani wedi ei chael yn euog o ddwyn arian gan gwpl bonheddig oedd yn ei chyflogi.

Roedd Beatrice Dalton, 25, yn cael ei chyflogi gan Y Fonesig Louisa Collings a’i gŵr, sy’n byw yn Llanandras, i edrych ar ôl eu pedwar plentyn.

Yn Llys y Goron Merthyr Tudful, cafwyd Dalton yn euog o ddwyn £6,600 gan y cwpl drwy ddefnyddio cardiau banc i dynnu arian o’u cyfrif personol.

Roedd Dalton yn cael ei thalu £7 yr awr ac wedi gweithio i’r cwpl am bedair blynedd. Mae’r Fonesig Louisa Collings yn ferch i Ddug Richmond sy’n byw ar stad Goodwood yn Sussex.

Mae’r barnwr wedi gohirio’r achos cyn cyhoeddi ei ddedfryd wrth aros am adroddiadau. Cafodd Dalton ei rhyddhau ar fechniaeth amodol.