Mae cynghorwyr Gwynedd a Môn wedi gohirio penderfyniad ar fabwysiadu canllawiau cynllunio dadleuol a fyddai wedi gwanhau statws y Gymraeg mewn ceisiadau cynllunio yn y ddwy sir.
Byddai’r canllawiau atodol newydd wedi cadarnhau na fyddai asesiadau o effaith ieithyddol yn cael eu cynnal ar gyfer y mwyafrif llethol o ddatblygiadau newydd o dan y Cynllun Datblygu Lleol.
Clywodd aelodau’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd bnawn ddoe fod cynghorwyr yn awyddus i ohirio penderfyniad ar y canllawiau oherwydd pryder ynghylch eu cyfreithlondeb.
Roedd hyn ar ôl i wybodaeth ddod i’r amlwg am rybudd gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis y gallai’r ddau gyngor fod yn agored i her gyfreithiol.
Gwadu hyn a wnaeth llefarydd ar ran Uned Polisi Cynllunio’r ddau gyngor, a oedd yn mynnu bod yr Cynllun Datblygu Lleol a’r Canllawiau Atodol yn “gyfreithiol gywir”.
Yn wyneb yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel “gwybodaeth newydd” gan Gwion Lewis, fodd bynnag, cytunodd aelodau’r Uned Polisi i gais aelodau o weithgor craffu Gwynedd am ohiriad.
Mae disgwyl i gynghorwyr drafod y canllawiau ymhellach mewn cyfarfod ar 17 Gorffennaf.
Rhybudd y bargyfreithiwr
Fel y nodwyd ar Golwg360 ddoe, roedd cyngor cyfreithiol Gwion Lewis at y gynghorwyr Gwynedd a Môn cyn y cyfarfod, yn cynnwys y sylwadau canlynol:
“Ymddengys y cytunwyd ar eiriad terfynol… y Cynllun Datblygu yn ystod y cyfnod ymgynghori [ar gyfer canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru].
“Credaf fod geiriad y polisi yn ddiffygiol gan nad ydyw, yn groes [i’r Ddeddf a chanllawiau cynllunio mwy diweddar y Llywodraeth] yn datgan yn glir y ‘[g]all ystyriaethau yn ymwneud â’r defnydd o’r Gymraeg gael sylw gan benderfynwyr cyn belled â’u bod yn berthnasol i geisiadau am ganiatâd cynllunio’.
“Yn hytrach, yr awgrym cryf yn y polisi yw y dylid ond rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg os yw’r meini prawf ar gyfer darparu ‘Datganiad Iaith Gymraeg’ neu ‘Asesiad Effaith Iaith Gymraeg’ yn cael eu cwrdd.
“… ni fyddai ‘atal’ neu ‘wahardd’ asesiad effaith iaith ar sail y [polisïau a chanllawiau] yn unig yn synhwyrol yn gyfreithiol ac fe allai sail ar gyfer adolygiad barnwrol godi oni ddilynir [fy nghyngor].”