Mae angen mwy o adnoddau er mwyn ceisio atal twyll ariannol a allai arwain at wasanaethau cyhoeddus yn colli hyd at £1bn y flwyddyn, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae mwy o le i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, yn ôl Adrian Crompton, sy’n rhybuddio bod dulliau twyllwyr yn mynd yn fwy cymhleth o hyd.
Ond mae’n tynnu sylw at yr ystadegau amrywiol, sy’n gosod y ffigwr rywle rhwng £100m i £1bn, sy’n awgrymu nad oes gan yr awdurdodau afael sicr ar y sefyllfa.
Gall twyll amrywio o ffugio treuliau a chaffael i seiberdroseddau, y twyll mwyaf cyffredin, a’r dulliau sy’n cael eu defnyddio amlaf yw llygredd, camddefnyddio asedau a thwyll datganiadau ariannol.
Mae atal ffyrdd o fanteisio ar ddiffygion technolegol yn un ffordd o fynd i’r afael, meddai’r Archwilydd Cyffredinol, ond mae’r adnoddau sydd ar gael i wneud hynny’n amrywio ar draws y sector cyhoeddus.
Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol
Mewn adroddiad gan swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol, mae astudiaethau achos o wahanol fathau o dwyll, gydag erlyniadau llwyddiannus ar gyfer y ddau achos canlynol:
- Gwnaeth cwmnïau Dragon, a sefydlodd ffatri brosesu ym Mhort Talbot ac a anelai at fod yn gyflenwr mwyaf y byd o abwyd melys ar gyfer y diwydiant pysgota, dwyllo’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o £4.7m; a
- Gwnaeth rheolwr prosiect dros dro ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys sefydlu cwmni preifat a chyflwyno anfonebau ffug ar gyfer cyfanswm o £822,000 i’w gyflogwr gan ddefnyddio enwau ffug.
“Mae bygythiadau twyll newydd yn esblygu yn barhaus yng Nghymru ac mewn mannau eraill ar draws y DU a phedwar ban y byd,” meddai Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru.
“Nid yw twyllwyr yn parchu ffiniau daearyddol ac mae’r ffyrdd y mae twyll yn cael ei gyflawni yn esblygu’n gyson wrth i gymdeithas a thechnoleg newid – daw hynny’n fwyfwy amlwg yn yr oes ddigidol heddiw.
“Felly mae’n hanfodol fod cydweithredu a rhannu gwybodaeth ac arferion da o ran mynd i’r afael â thwyll yn digwydd rhwng cyrff cyhoeddus, cyrff preifat a chyrff yn y trydydd sector ar draws Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
“Ar adeg o gyni parhaus, credaf ei fod yn bwysicach nag erioed i bob corff cyhoeddus yng Nghymru geisio lleihau’r risg o golledion yn sgil twyll.
“Rhaid i sefydliadau flaenoriaethu atal twyll a gallant helpu i liniaru’r risgiau o dwyll drwy feddu ar y diwylliant sefydliadol cywir wedi’i gefnogi gan drefniadau atal twyll effeithiol.”