Mae pensiynwr o Sir Gaerfyrddin wedi derbyn chwe blynedd a hanner o garchar am gyfres o droseddau rhyw ‘hanesyddol’ yn erbyn plant.

Cafodd David Allen Davies, 70, o Bontyberem ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Iau, Mai 30) am droseddau yn erbyn dwy ferch ifanc.

Cafodd y gŵr sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Dai Love’ a ‘Dai Trout’ ei arestio ym mis Gorffennaf 2016, ar ôl i un o’r dioddefwyr gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys yn dweud iddi gael ei cham-drin gan yr henwr bron i hanner canrif yn ôl.

Yn ystod yr ymchwiliad ei hun, daeth swyddogion i wybod am ail ddioddefwr yr oedd David Allen Davies wedi ei thalu i gyflawni gweithredoedd rhywiol arno pan oedd hi ond yn wyth oed.

Roedd y ddwy ferch, er nad yn adnabod ei gilydd, yn dweud bod y troseddau wedi digwydd yng nghartref y gŵr ym Mhontyberem.

Y ddedfryd

Ym mis Ebrill, cafodd David Allen Davies ei ganfod yn euog o 13 achos o gamymddwyn yn amhriodol tuag at ferched a oedd yn iau na 14 oed ar y pryd.

Yn ogystal a chyfnod yn y carchar, mae ei enw hefyd wedi ei ychwanegu at gofrestr y troseddwyr rhyw.

Yn ôl y Ditectif Cwnstabl Lee Davies, sydd wedi diolch i’r dioddefwyr am eu “dewrder”, mae yna le i gredu bod yna ragor o ddioddefwyr ac mae’n galw arnyn nhw i gysylltu â’r heddlu.

“Yn anffodus, wnaeth Davies ddim derbyn cyfrifoldeb am y troseddau a gyflawnodd flynyddoedd yn ôl,” meddai.

“Ond bellach, ar ôl dod i wybod am ei ymddygiad, rydym yn credu bod yna ddioddefwyr eraill allan yn rhywle.”