Mae Leanne Wood wedi cael ei chyhuddo o gymharu pobol sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd â’r Natsïaid.

Daw’r cyhuddiad ar ôl iddi bostio llun ar ei thudalen Facebook sy’n dangos dynes yng ngwisg baner Ewrop yn reslo breichiau â’r symbol Swastika tros flwch pleidleisio.

Gyda’r llun, mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn dweud iddi dderbyn “ymatebion diddorol ac amrywiol iawn i’r ddelwedd hon”, gan ychwanegu ei bod yn “ddelwedd bwerus”.

Cyfiawnhad

Wrth gynnig cyfiawnhad tros bostio’r llun, ar ôl cael ei beirniadu, mae Leanne Wood yn dweud mai ei “dehongliad” hi yw fod y ddelwedd yn “frwydr rhwng y gwerthoedd yr ydyn ni ynddi”.

Mae hi’n disgrifio’r frwydr honno fel un “pro-Ewropeaidd, allblyg, adeiladol, yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn erbyn pleidiau’r asgell dde ar draws yr Undeb Ewropeaidd y mae disgwyl iddyn nhw wneud yn dda iawn heno”.

Mae’r neges ar ei thudalen wedi derbyn dros 500 o sylwadau, ac wedi cael ei rhannu 290 o weithiau.

Ymateb i feirniadaeth

Mae Leanne Wood yn egluro ei “dehongliad” ymhellach mewn sawl neges yn ymateb i sylwadau gan bobol eraill.

Mae hi’n mynnu mewn un neges “nad yw’n sylw am unrhyw unigolyn na’r ffordd y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm”, ond yn hytrach, mae’n “sylw am esgyniad yr asgell dde eithafol a’r angen i bobol ar draws Ewrop i fod yn unedig os ydyn nhw am gael eu trechu”.

Mae un postiwr yn ei chyhuddo o fethu â deall hanes Ewrop.

Ond mae hi’n dweud mai ei dealltwriaeth o hanes Ewrop sydd wedi arwain at ei “phryder dwys am esgyniad yr asgell dde eithafol”, ac nad yw’r neges yn benodol yn ymwneud â Brexit fel y cyfryw.

Dydi’r sylwadau bellach ddim i’w gweld ar lif Twitter, nac ar dudalen Facebook Leanne Wood.

Darlun gan Leanne Wood ar ei thudalen Facebook noson canlyniadau etholiad Ewrop