Mae Plaid Cymru yn dweud bod ymadawiad Theresa May am esgor ar “frwydr Brexit newydd”.
Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y tu allan i Rif 10 y bore yma (dydd Gwener, Mai 25), y bydd y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn cychwyn ar Fehefin 7.
Mae Plaid Cymru yn ofni y gallai’r Blaid Geidwadol goleddu Brexit fwy caled yn ystod yr wythnos nesaf wrth i olynydd i Theresa May gael ei ddewis.
“Efallai mai dyma ddiwedd y Prif Weinidog, ond dyma gychwyn ar frwydr Brexit newydd,” meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddwn ni’n gweld ras gwrth-Undeb Ewropeaidd ymhlith yr adain Brexitaidd o’r Blaid Geidwadol.
“Ni allwn adael i wleidyddiaeth ffantasi, sydd wedi ein harwain ni i’r llanast hwn, ddiffinio ein dyfodol.
“‘Peidiwch â gwastraffu amser’, meddai Donald Tusk pan gafodd yr estyniad olaf ei ganiatáu. Rydw i’n ofni bod Llywodraeth Prydain wedi methu â gwrando ar gyngor mor dda.
“Drwy roi’r mater yn ôl yn nwylo’r bobol, mewn ail refferendwm, fe allai Brexit fod wedi cael ei ddatrys fisoedd yn ôl.”
“Newid arweinydd yn newid dim”
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakefod, ras arweinyddiaeth yw’r “peth diwethaf” sydd ei angen ar wledydd Prydain ar hyn o bryd.
“Ei llinellau coch sydd wedi arwain [Theresa May] at ddiwedd y ffordd a’n gadael ni mewn llanast a grëwyd ganddi hi,” meddai Mark Drakeford.
“Gornest am yr arweinyddiaeth yw’r peth diwethaf sydd ei angen ar y wlad wrth inni negodi un o’r heriau mwyaf mae’n gwlad wedi’i hwynebu ers degawdau.
“Mae’r gobaith o sicrhau Brexit trefnus – un sy’n diogelu ein heconomi a swydd – erbyn Hydref 31 nawr yn llai tebygol.
“Fydd newid arweinydd yn newid dim – mae gwir angen dull newydd o edrych ar Brexit, a hynny ar sail cyfaddawd, er mwyn pontio’r rhaniadau yn ein gwlad.”