Mae golwg360 yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed trwy fwrw ymlaen gyda chynllun i helpu creu gwefannau bro Cymraeg.

Ac mae nifer yr ymweliadau â’r wefan newyddion ar-lein ddyddiol wedi cynyddu’n gyson ers y dechrau ar Fai 15,/2009. Bellach, mae’r ffigwr tua 14,000 ond yn aml yn llawer uwch na hynny.

Yn ôl un o sylfaenwyr y wefan, roedd hi’n “rhyfeddod” ei bod wedi cyflawni cymaint ar gyn lleied o adnoddau.

“Gweithgaredd newydd”

“Efo grant o dim ond tua £200,000 y flwyddyn, mae criw bach o staff – yr hyn sy’n cyfateb i bedwar o newyddiadurwyr – wedi llwyddo i gyhoeddi mwy na 90,000 o storïau, am Gymru, gwledydd Prydain a’r byd,” meddai Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr cwmni Golwg.

“Bellach, ryden ni’n defnyddio llwyfan golwg360 er mwyn ceisio sbarduno gweithgaredd newydd mewn dwy ardal beilot yng Nghymru – y gobaith ydi y bydd y gwefannau bro cynta’ yn fyw erbyn diwedd y flwyddyn.”

Fe fydd cyfarfodydd i hyrwyddo’r cynllun hwnnw yn cael eu cynnal mewn dwy ardal – Arfon a Gogledd Ceredigion – yn ystod yr wythnosau nesa’ er mwyn helpu criwiau o bobol leol i sefydlu’r gwefannau.

Trwy brosiect peilot Bro360, fe fydd golwg360 yn gweithio gyda phobol y bröydd am gyfnod o dair blynedd; hynny gyda chefnogaeth Cynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

‘Papurau’ dyddiol lleol iawn

“O fod wedi sefydlu Golwg360, ryden ni’n gallu adeiladu ar hynny i geisio lledu’r lles,” meddai Dylan Iorwerth.

“Adeg sefydlu’r wefan, roedd yna ymgyrchu tros bapur dyddiol print i Gymru; y gobaith ydi ein bod ni rŵan yn rhoi cychwyn ar yr hyn allai fod yn ‘bapurau’ digidol dyddio lleol iawn i fröydd ar hyd y wlad.”