Mae’r byd darlledu ac adloniant wedi talu teyrnged i’r gyflwynwraig, cantores a nofelydd, Mari Griffith, a fu farw yn 79 oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Bu’r ferch o Faesteg ger Pen-y-bont ar Ogwr – a ymgartrefodd yn Llanilltud Fawr – yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i lawer yng Nghymru ers yr 1960au.
Yn ystod y dyddiau cynnar, bu’n gyfrannwr cyson i raglenni fel Disc a Dawn, Music from the Castles a Poems and Pints, gan ymddangos ochr yn ochr â Ryan Davies, Ronnie Williams a Max Boyce ymhlith enwogion eraill.
Bu hefyd yn cyflwyno ar Radio Wales, Radio 3 a Radio Cymru, a theithiodd ledled y byd yn cynhyrchu rhaglenni adloniant a cherddoriaeth.
Yn fwy diweddar, fe drodd ei llaw at sgrifennu nofelau hanesyddol, gyda’i nofel gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn 2015.
“Darlledwraig naturiol”
Yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, roedd Mari Griffith yn “ddarlledwraig naturiol a’i llais yn disgleirio trwy’r tonfeddi.”
“Ei chariad at gerddoriaeth a’i harweiniodd i’r BBC, ac fe gofiwn ei pherfformiadau gyda Ryan a Ronnie yn ogystal â rhaglenni cerddorol eiconig y cyfnod.
“Bu i’w gyrfa radio ymestyn ar draws nifer o orsafoedd y BBC – gan gynnwys Radio Wales a Radio Cymru – ac rwy’n gwybod y bydd cydweithwyr a gwrandawyr yn ei cholli’n fawr.”
Mae Cwmni Recordiau Sain hefyd wedi talu teyrnged i Mari Griffith, gan ei disgrifio’n “gantores heb ei hail ac un o sêr y byd adloniant yma yng Nghymru.”
Trist iawn clywed y newydd heddiw am Mari Griffiths – cantores heb ei hail ac un o ser y byd adloniant yma yng Nghymru. Diolch Mari am ddod i 'rannu'r hen gyfrinachau' efo ni yng Nghaernarfon llynedd. ❤️ Anfonwn ein cydymdeimlad a'n cofion at ei theulu a'i chyfeillion. pic.twitter.com/P7vHj3LPoC
— Sain (@Sainrecords) May 14, 2019