Mae cryn grafu pen wedi bod ymhlith pleidleiswyr yn yr Alban ar ôl i’r Blaid Lafur anfon taflenni dwyieithog – Cymraeg a Saesneg – atyn nhw drwy gamgymeriad.
Mae’r Blaid Lafur bellach yn ymchwilio i’r mater wedi i Albanwyr yn rhai o ardaloedd yr Ucheldir dderbyn taflenni yn nodi: “Pleidleisiwch dros Lafur Cymru i ddod â phobl yn ôl at ei gilydd.”
Dyma’r eildro mewn ychydig fisoedd i’r Blaid Lafur gymysgu rhwng Cymru a’r Alban.
Ddechrau’r flwyddyn, fe gyhoeddwyd fideo hysbysebu gan y blaid yn yr Alban a oedd yn cynnwys golygfeydd o fynyddoedd Cymru.
Dywed llefarydd ar ran y blaid: “Fe gafodd pentwr o daflenni eu hanfon drwy gamgymeriad i leoliadau anghywir, ac rydyn ni’n ceisio dod i wybod sut ddigwyddodd hyn.
“Ond yn bwysicaf oll, chafodd ddim data personol ei rannu.”
Bydd yr Etholiad Ewropeaidd yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf ar Fai 23.