Mae’n “bwysig” bod Cynghorau Cymru yn cyfrannu at y gwaith o rwystro newid hinsawdd.

Dyna farn Bethan Russell Williams, un o dua 50 o ymgyrchwyr sydd wrthi’n gwrthdystio yng Nghonwy ar ran Extinction Rebellion.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan bod y ddaear yn wynebu “argyfwng hinsawdd”, a heddiw (Mai 9) bydd Cyngor Conwy yn ystyried datgan hynny hefyd.

Mae Bethan Russell Williams yn croesawu hyn oll, ac yn dweud ei bod yn bwysig bod cynghorau yn ymuno â’r achos.

“Rydan ni angen sicrhau bod cynghorau unigolyn yn gweithredu hefyd,” meddai wrth golwg360. “… Mae’n bwysig ar lefel sirol.”

“Hefyd, mae gwneud datganiad yn un peth, ond sut maen nhw’n mynd i weithredu yn wahanol?

“Dw i’n credu bod gennym ni rôl, fel Extinction Rebellion, wrth graffu ar y newidiadau a fydd yn cael eu cyflwyno. Byddwn yn cwestiynu a fyddan nhw’n ddigonol, ac a fyddan nhw’n cael effaith?”

Mae’r ymgyrchydd yn ffyddiog y bydd y cynnig i ddatgan “argyfwng hinsawdd” yn cael pasio. Ac mae’n ategu bod “nifer o gynghorwyr etholedig” o “bob plaid” wedi ymrwymo i bleidleisio o’i blaid.

“Mae yna gydnabyddiaeth ymhlith y cynghorwyr bod hyn yn fater sydd angen sylw,” meddai.

Y grŵp

Mae grŵp Extinction Rebellion eisoes wedi cynnal llu o brotestiadau ledled y Deyrnas Unedig, a bellach mae’n “fudiad mawr”, yn ôl Bethan Russell Williams.

Aelod o Extinction Rebellion Gogledd Cymru yw hi, ond does ganddi ddim rôl o fewn y grŵp gan nad oes gan y mudiad “system hierarchaidd o swyddogion”.

“Mae’r mudiad yn y broses yn awr o sefydlu canghennau lleol ar draws gogledd Cymru,” meddai. “Mae yna sôn am sefydlu cangen Bro Ffestiniog a Changen Dyffryn Nantlle.”

Gallwch glywed rhagor am gyflwr y grŵp yng Nghymru islaw…