Bydd dau chwaraewr rygbi enwog o Sir Gaerfyrddin yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn Sir Conwy ym mis Awst.
Bydd Jonathan Davies a Ken Owens, ill dau yn aelodau o glwb rhanbarthol y Scarlets a thîm Cymru, yn derbyn y Wisg Las am eu cyfraniad i fyd chwaraeon.
Daw Jonathan Davies yn wreiddiol o Fancyfelin, a bu’n allweddol ym muddugoliaeth Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Yn ystod taith y Llewod yn 2017, fe gafodd y canolwr ei ddewis gan ei gyd-chwaraewyr yn Chwaraewr y Gyfres.
Daw Ken Owens wedyn o Bontyberem, a bu yntau’n aelod pwysig o garfan lwyddiannus Cymru yn y Chwe Gwlad ar ddechrau’r flwyddyn, a hynny yn safle’r bachwr.
Mae’n wyneb cyfarwydd i lawer o Gymry, gan ei fod yn cyfrannu’n gyson at gyfweliadau Cymraeg yn dilyn gemau rhanbarthol a rhyngwladol.