Mae Gŵyl ffilmiau hoyw Iris, sy’n digwydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon, wedi llwyddo i gael cefnogaeth Ceidwadwr a dyn busnes amlwg. Mae Michael Bishop, Yr Arglwydd Glendonbrook, yn gyn-Gadeirydd Channel 4 a bellach yn bennaeth BMI.

Mae cael cefnogaeth yr adain dde yn bwysig, yn ôl sylfaenydd yr ŵyl, am fod pobol yn tueddu i feddwl mai’r chwith sy’n ymgyrchu dros hawliau hoyw.

“I mi, mae hynny’n beryglus. Dydi hynny ddim yn cydnabod cyfraniad pobol sydd i’r canol ac i’r dde. Mae’n awgrymu nad oes yna ddyletswydd i bobol ar y dde i weithredu.

“Mae hyn yn newyddion gwych i bawb sydd am weld Gwobr Iris yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr ffilm Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mae’r Arglwydd Glendonbrook yn ffigwr uchel ei barch sydd â chyfoeth o brofiad yn y byd busnes, gan gynnwys y byd ffilm.”

Gŵyl hoyw “anghonfensiynol”

Mae Gŵyl Iris  yn ei phumed blwyddyn eleni ac yn digwydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Dyw hi ddim yn ŵyl ffilm lesbiaid a hoyw gonfensiynol, yn ôl ei sylfaenydd, am ei bod yn rhoi blaenoriaeth i safon yn hytrach na dim ond cynrychioli pob carfan o’r gymdeithas hoyw.

“Mae hi’n ŵyl unigryw,” meddai. “Dw i ddim yn credu bod yna unrhyw beth tebyg. Dydi hynny ddim oherwydd bod gen i unrhyw wrthwynebiad i wyliau hoyw a lesbiaid traddodiadol, ond rôl gwyliau tebyg ydi cynrychioli’r gymuned ar y sgrin fawr.

“Os ydi’r cynnwys ddim yn safonol, dydi’r cynnwys ddim yn ymddangos ar y sgrin. Mae hynny wedi bod yn sialens. Petaech chi yn ŵyl hoyw gonfensiynol, mae’n ofynnol arnoch chi i sicrhau cynrychiolaeth.”

“Calon Iris” yw’r gystadleuaeth i wobrwyo am y ffilm fer orau o bedwar ban byd – gyda gwobr o £25,000. Mae 18 gŵyl ffilm mewn 11 gwlad yn enwebu ffilm yr un.

“Dydyn ni ddim yn eistedd i lawr a dweud ‘mae gennym ni ofod i 30 o ffilmiau, a rhaid i ni gael cwota ar gyfer lesbiaid, cwota ar gyfer dynion hoyw’,” meddai. “Ond rydan ni’n gofyn iddyn nhw ffeindio’r ffilm fer orau maen nhw wedi’u gweld. Dw i ddim yn honni am eiliad bod ni’n cael o 100% yn iawn, ond yn hyderus ein bod ni’n dod yn agos i ffeindio’r goreuon yn y flwyddyn honno.”

Bydd rheithgor o 13 o feirniad yn dethol y ffilm fer orau o bedwar ban byd. Yn eu plith mae’r nofelydd enwog o Gaerdydd, Sarah Waters.

Dangosir y ffilmiau yn Cineworld a Chapter rhwng Mercher a Sadwrn, Hydref 5 – 8. Bydd ffilmiau hyd llawn hefyd i’w gweld, nifer am y tro cyntaf ym Mhrydain a’r byd. Un ffilm sy’n cael ei phremière byd yw Vampires: Brighter in Darkness, gan gwmni Witchward Ltd Productions o Sir y Fflint (nos Wener, 10pm). Bydd cyfarwyddwr y ffilm, Jason Davitt, yn bresennol.  Un arall yw The Adored, ffilm Carl Medland ac Amarjeet Singh, a gafodd ei ffilmio yn ardal Eryri.

Ffefryn Berwyn Rowlands yw’r ffilm Almaenig, Harvest, gan Benjamin Cantu, am berthynas dau brentis ffarm.

Dim cynnwys o Iran

Yr hyn sy’n dod i’r amlwg wrth drefnu’r ŵyl bod yna wledydd nad ydyn nhw’n cynhyrchu ffilmiau hoyw.

“Pam fyddwch chi’n edrych ar Iran ac Irac a llefydd tebyg,” meddai Berwyn Rowlands, “lle nad oes yna ddim cynnwys. Dw i ddim yn hyderus bod pobol yn creu cynnwys.

“Mae hynny’n aml iawn yn ysgytwad i bobol sy’n teimlo bod y sefyllfa hoyw yn y byd wedi gwella. Y ffaith ydi ei fod wedi gwella mewn rhai llefydd yn y byd, a bod yn dal lot fawr o bobol hoyw o dan ormes. Dydi eu bywydau nhw ddim wedi newid dros y can mlynedd diwethaf, tra bod hynny ddim yn wir amdanom ni yng Nghymru, ac yn Ewrop a’r gorllewin yn gyffredinol.”

Eleni yw’r ail flwyddyn i’r ŵyl ddangos ffilm o India. Fe wnaeth hi bartneriaethu gyda gŵyl ym Mumbai y llynedd, oherwydd bod deddfau rhywioldeb wedi newid yn rhai rhanbarthau o’r wlad.

“Ry’ch chi’n gallu gweld lle mae yna draddodiad newydd yn dechrau mewn gwlad,” meddai. “Er eu bod nhw efallai ar drothwy eu siwrnai weledol nhw, beth sy’n bwysig am Iris yw eu bod nhw’n teimlo bod yna rwydwaith ryngwladol, ac nad ydyn nhw ar ben eu hunain.

“Yr hyn sy’n ddifyr i ni yw bod y rhwydwaith yna yn cael ei gydlynu o Gaerdydd, nid o San Francisco neu Sydney, sef rhai o’r llefydd y byddai rhywun yn meddwl amdanyn nhw, cyn meddwl am ddinas ym Mhrydain.”