Mae Llais Gwynedd wedi cyhuddo’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o wneud “sylwadau difrïol a di-sail” amdanyn nhw.

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Yn dilyn buddugoliaeth Plaid Cymru mewn dau is-etholiad yng Ngwynedd wythnos yn ôl, mi wnaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas gyhuddo plaid Llais Gwynedd o “ymgyrch negyddol a chamarweiniol”.

Er i Golwg360 ofyn i’r Arglwydd Elis-Thomas egluro’r sylwadau a wnaeth am Lais Gwynedd mewn datganiad, nid oedd am ymhelaethu.

Roedd ymateb yr Arglwydd i fuddugoliaeth Gareth Thomas ym Mhenrhyndeudraeth a Mandy Williams-Davies ym Mlaenau Ffestiniog, pan lwyddodd Plaid Cymru i ddal gafael yn un o’i seddi a chipio un arall oddi ar Lais Gwynedd, yn siom i’w wrthwynebwyr.

“O ran sylwadau difriol a di-sail Dafydd Elis Thomas mae’n hawl gan unrhyw un sefyll etholiad a braint yw cael gwneud hynny mewn cymdeithas wâr,” meddai’r Cynghorydd Alwyn Gruffudd o Lais Gwynedd.

“Ennill neu golli etholiad dyletswydd pawb yw derbyn y canlyniad yn anrhydeddus a di-wenwyn. Mae unrhyw ymateb i’r gwrthwyneb yn unbeniaethol, yn annerbyniol ac yn annemocrataidd.”

Newid ar Gyngor Gwynedd?

Er bod gan Blaid Cymru fwyafrif ar Gyngor Gwynedd unwaith eto, nid yw hynny’n golygu bod Llais Gwynedd yn colli eu dwy sedd ar y Bwrdd Rheoli.

Ond mae’n bosib y bydd un cynghorydd annibynnol yn llai ar y Bwrdd Rheoli sy’n cynnwys 15 cynghorydd, os bydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor yn penderfynu newid y drefn er mwyn adlewyrchu’r balans gwleidyddol newydd.

Yng nghyfarfod llawn y cyngor sir ymhen pythefnos fe allai’r Blaid newid y drefn fel bod ganddi fwyafrif ar y Bwrdd Rheoli.