Nid yw’r gŵr a fu yn heclo Theresa May yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn adlewyrchu’r farn am y Prif Weinidog.

Dyna farn, Mark Isherwood, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, ac un o’r rheiny oedd yn y dorf yn ystod araith y Prif Weinidog yn Llangollen.

Cyn iddi ddechrau areithio, mi gododd dyn ar ei draed a gweiddi: “Pam na wnewch chi ymddiswyddo, Prif Weinidog?”

Yn syth wedi hynny cafodd ei dywys o neuadd pafiliwn Llangollen, ac mi ddechreuodd Theresa May ei haraith gan gyfarch y dorf yn Gymraeg.

Wrth i Brexit rygnu ymlaen, mae’r pwysau yn cynyddu ar y Prif Weinidog i gamu o’r neilltu. Ond, ym marn Mark Isherwood dyw’r gŵr a weiddodd ddim yn adlewyrchu barn y Cymry.

“Dim ond un person oedd hynna,” meddai wrth golwg360. “Ond mae ganddo agenda ei hun. A doedd dim digon o barch ganddo i wrando yn gyntaf ar beth oedd ganddi i’w ddweud.

“Mae hynny’n drueni. Ond mae cymdeithas yn llawn odd bods. Ac yn anffodus roedd gennym odd bod heddiw.”

Canmoliaeth

Gan eithrio’r dyn fu yn heclo, cafodd Theresa May ymateb cynnes gan aelodau yn Llangollen. Ac mae Mark Isherwood yn credu bod hynny’n haeddu canmoliaeth.

“Roedd y gynulleidfa ar eu traed pan ddaeth hi i mewn, ac ar ôl gwrando arni,” meddai. “A dyw hynna ddim yn digwydd bob tro.

“Dyw hynny ddim wedi digwydd â chyn-Brif Weinidogion yng nghynadleddau’r Ceidwadwyr Cymreig yn y gorffennol. Llwyddodd hi yn hynny o beth.”