Llun o wefan y cwmni
Mae un o gwmnïau gwyliau enwoca’ Cymru wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Fe fydd 12 o bobol yn colli eu gwaith gyda chwmni Gwyliau’r Seren Arian o Gaernarfon, sydd wedi bod yn trefnu gwyliau gartre’ a thramor ers mwy nag 20 mlynedd.

Mae’r cwmni’n rhan o gymdeithas trefnwyr gwyliau sy’n golygu y dylai pobol sydd wedi llogi gwyliau eisoes gael eu harian yn ôl.

Roedd y cwmni wedi cau ei swyddfa yn Wrecsam ynghynt eleni er mai ef oedd yn cyflwyno’r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr argyfwng economaidd a phris tanwydd sy’n cael y bai.

Y cefndir

Roedd ‘Silver Star’ wedi dechrau fwy na 90 o flynyddoedd yn ôl ac am ddegawdau yn un o fusnesau “bysus bach y wlad” yn ardal Caernarfon.

Roedd ei swyddfa ar y Maes yng nghanol y dre’ ac, am gyfnod, roedd hefyd yn rhedeg caffi yno.

Mae rhai pobol leol wedi bod yn mynd ar wyliau gyda’r cwmni ers blynyddoedd ac roedd wedi ennill gwobr y ‘Cwmni teithiau bws gorau’ yn 2008.

Roedd yn codi teithwyr o 80 o wahanol lefydd ar draws gogledd Cymru a Glannau Mersi.