Rhodri Talfan Davies - pawb yn pryderu
Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru yn dweud y gallai staff orfod aros wythnosau cyn clywed beth fydd eu tynged yn dilyn y toriadau sydd wedi eu cyhoeddi gan y Gorfforaeth heddiw.

Mewn sgwrs â Golwg 360 dywedodd Rhodri Talfan Davies, sydd wedi bod yn y swydd ers diwedd Gorffennaf eleni, y byddai’n rhaid i’r adrannau gynnal cyfarfodydd nawr er mwyn trafod sut i weithredu’r toriadau.

“Mae pawb yn pryderu,” meddai, “mae nifer y swyddi sydd am gael eu colli yn creu ansicrwydd. Ond dros yr wythnosau nesaf fe fydd adrannau yn ffurfioli eu cynlluniau, ac wedyn yn rhannu’r cynlluniau hynny gyda’u staff”.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru wrth Golwg 360 fod “siom fawr” am nifer y swyddi sydd yn rhaid eu torri, ond fod yn rhaid gwneud y toriadau er mwyn arbed arian, a rhyddhau cyllid.

Arbedion a chostau ychwanegol – fel S4C

Mae’r arbedion wedi cael eu hysgogi gan gytundeb rhwng y BBC a’r Llywodraeth i gadw pris y drwydded deledu yn ei unfan am y pum mlynedd nesa’.

Ond mae’r angen i ryddhau cyllid hefyd wedi codi o’r ffaith fod gan y BBC gyfrifoldebau newydd erbyn hyn, gan gynnwys rhoi arian at S4C.

“Mae’n rhaid i ni symud yn weddol gyflym nawr,” meddai Rhodri Talfan Davies, “gan fod costau y gwasanaethau ychwanegol sydd gan y BBC, fel S4C a’r World Service, yn mynd i ddod i mewn yn y ddwy flynedd nesaf, ac mae angen rhyddhau’r cyllid.”

Dywedodd fod y cynlluniau hefyd wedi cael eu gwneud er mwyn diogelu safon gwasanaeth y BBC: “R’yn ni’n glir iawn yn ein blaenoriaethau,” meddai. “R’yn ni wedi cymryd camau i ddiogelu’r allbwn,”

Blaenoriaethu toriadau

Yn ôl y cyhoeddiad gan y BBC heddiw, mae lefel y toriadau sy’n rhaid eu gwneud yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ychydig yn is na’r cyfartaledd ar draws y Gorfforaeth.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies wrth Golwg 360 fod “lefel yr arbedion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ychydig yn is oherwydd bod y BBC yn sylweddoli bod sialensiau yn y cenhedloedd datganoledig oherwydd natur y farchnad”.

Mae’r toriadau ar draws y gorfforaeth yn cyrraed 20% , ond arbediad o 16% fydd ei angen yng Nghymru – sef £10.7 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.

Mae BBC Cymru wedi penderfynu y bydd yr arian sy’n cael ei wario ar raglenni yn cael ei ddiogelu i raddau – 10% fydd y toriadau yno. Ond mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid gwneud arbedion o 25% mewn gwario y tu allan i’r adrannau cynnwys.

100 o swyddi’n mynd

Goblygiadau hynny i staff fydd bod 100 o swyddi yn gorfod cael eu torri gan y BBC yng Nghymru.

“Fe fydd yn anodd,” dywedodd Rhodri Talfan Davies wrth staff BBC Cymru heddiw, “ond wrth ddod i’r afael â’r newidiadau hyn, fe wnawn ein gorau glas i leddfu’r poen a’r pryder y bydd rhai unigolion yn eu hwynebu.”