Mae ffermwr ifanc o Bowys yn gobeithio cneifio cymaint ag y gallai o ddefaid mewn cyfnod o 24 awr er mwyn codi arian ar gyfer achos da.
Fe fydd Owen Davies, 26, o ardal Llanandras, yn ymgymryd â’r sialens ym mis Mehefin, a’r nod yw codi hyd at £6,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru – achos sy’n agos iawn at ei galon ar ôl i aelod o’r teulu gael damwain ar y fferm y llynedd.
Er nad oes gan Owen Davies darged o ran faint o ddefaid i’w cneifio, mae ymgymryd â’r dasg am gyfnod o 24 awr yn debyg i redeg tri marathon cyfan, meddai.
Mae wedi bod yn hyfforddi ers mis Chwefror, a hynny ar ôl dychwelyd o Awstralia lle bu’n cneifio am gyfnod o dri mis.
Ers hynny mae wedi gorfod mynd allan ar y beic yn gyson, bwyta’n iach ac osgoi yfed alcohol.
“Mae yna lot o newyddion gwael wedi bod am y diwydiant amaeth yn ddiweddar, a dw i’n awyddus i wneud rhywbeth eithaf positif,” meddai Owen Davies wrth golwg360.
“Mae hwn yn rhywbeth i ysgogi pobol i edrych ar ffermwyr a gweld beth maen nhw ei wneud o ddydd i ddydd.”
Bydd yr her yn cael ei gynnal ar Fferm Heartsease, Tref-y-clawdd, ar Fehefin 14.