Llyn Tegid, y Bala
Mae dyn wedi ai arestio ar ôl i ddynes gael ei saethu yn ei choes â haelsen dryll awyr.

Digwyddodd y saethu yn ardal Cysgod y Coleg, y Bala, ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod dyn 26 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod a bod perchen ar ddryll awyr.

Cafodd yr heddlu wybod fod dynes wedi ei saethu yn ei choes am 6.20pm ddydd Mawrth, medden nhw. Credir nad oedd yr anaf yn un difrifol.

Mae’r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu ymchwilio.