Mae bachgen 13 oed a fu farw ar ôl cael hyd iddo’n anymwybodol mewn parc, wedi cael ei enwi’n lleol.

Cafwyd hyd i Carson Price ger cae rygbi ym mharc Ystrad Mynach ger Caerffili am oddeutu 7.20 nos Wener (Ebrill 12).

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn ddiweddarach.

“Mae fy mywyd wedi’i ddifetha, mae fy mabi wedi mynd,” meddai ei fam Tatum ar wefan gymdeithasol Facebook.

Mewn datganiad, dywedodd Christopher Parry, pennaeth Ysgol Lewis Pengam fod pawb yn “torri’u calonnau” o glywed am ei farwolaeth.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i’w farwolaeth, ond does ganddyn nhw ddim eglurhad hyd yn hyn ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.