Mae bachgen 13 oed wedi marw ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol mewn parc yn Ystrad Mynach ddoe (dydd Gwener, Ebrill 12).
Cafwyd hyd iddo am oddeutu 7.20 y nos.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw.
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i’w farwolaeth, ond does dim eglurhad hyd yn hyn.