Mae diffoddwyr tân wedi llwyddo i reoli tân mynydd yn Rhosgadfan.
Fe fu sawl cerbyd a nifer o dimau ar y safle ers 3.15 fore heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 13).
Cafodd y diffoddwyr o ardaloedd Bangor, Caernarfon a Llanberis anawsterau dros nos oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Fe fu oedi i deithwyr yn yr ardal ar ôl i ffordd gyfagos gael ei chau yn sgil y digwyddiad.