Mae Heddlu De Cymru wedi lansio apêl ryngwladol er mwyn ceisio dod o hyd i ddyn sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â llofruddiaeth myfyriwr yn ninas Caerdydd naw mlynedd yn ôl.

Mae’r llu yn awyddus i holi Mohammed Ali Ege, 41, ynghylch marwolaeth Aamir Siddiqi, a gafodd ei drywanu i farwolaeth o flaen ei rieni yng nghartref y teulu yn y brifddinas ar Ebrill 11, 2010.

Cafodd y bachgen 17 oed ei ladd gan ddau ddyn, Ben Hope a Jason Richards, wedi iddyn nhw fynd i’r cyfeiriad anghywir.

Yr honiad yw bod Mohammed Ali Ege wedi talu £1,000 yr un i’r pâr er mwyn llofruddio dyn canol oed a oedd mewn dyled o dros £50,000 iddo.

Gŵr ar ffo

Mae swyddogion Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un yng ngwledydd Prydain neu dramor ynghylch presenoldeb Mohammed Ali Ege, a ddihangodd o ddwylo’r awdurdodau ym mis Ebrill 2017.

Roedd y gŵr o Gaerdydd wedi dianc drwy ffenest tolied mewn gorsaf drenau yn New Delhi, tra oedd yn aros i gael ei estraddodi yn India.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod nhw’n cydweithio a’r Asiantaeth Drosedd Genedlaethol ac asiantaethau rhyngwladol er mwyn ceisio dychwelyd Mohammed Ali Ege i wledydd Prydain.

Yn ôl y Ditectif Prif Arolygydd, Paul Giess, mae ymchwiliad yn dangos bod Mohammed Ali Ege wedi teithio.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod ei fod wedi newid ei ymddangosiad ac wedi cael mynediad at fanylion adnabyddiaeth gwahanol sydd wedi ei alluogi i deithio’n eang o ganlyniad i ddogfennau ffug,” meddai.

“Roedd y dogfennau ffug a gafodd eu canfod adeg ei arestio yn India o safon uchel ac fe fyddan nhw wedi costio tipyn i’w cynhyrchu, sy’n awgrymu ei fod yn cael ei gefnogi’n ariannol – o bosib gan rywun o fewn de Cymru.

“Rydyn ni am ddal pwy bynnag sy’n cynorthwyo Ege neu sydd wedi ei gefnogi yn y gorffennol.”

Ychwanega’r heddlu eu bod nhw hefyd wedi bod yn archwilio eiddo yn ardal Caerdydd fel rhan o’u hymchwiliad.

Fe gafodd y ddau lofrudd, Ben Hope a Jason Richards, eu dedfrydu i oes o garchar yn 2013, ac mae disgwyl iddyn nhw dreulio o leiaf 40 mlynedd o dan glo.