Mae ymgyrch newydd wedi ei lansio yn Sir Gaerfyrddin er mwyn ceisio mynd i’r afael â thlodi misglwyf.

Mae’n golygu bod eitemau misglwyf – tamponau a phadiau – yn cael eu dosbarthu am ddim i bob un o’r 97 o ysgolion cynradd a’r 12 o ysgolion uwchradd yn y sir, yn ogystal â cholegau, grwpiau ieuenctid a sefydliadau ieuenctid.

Mae’r prosiect, #PeriodPovertySirGâr, yn cael ei arwain gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin gyda chefnogaeth y cyngor sir a Llywodraeth Cymru.

Y nod yw sicrhau nad yw diffyg darpariaeth ddigonol yn ystod cyfnod y misglwyf yn amharu ar addysg merched, ynghyd â newid agweddau pobol fel nad yw misglwyf bellach yn bwnc tabŵ.

Yn ôl ystadegau, mae un o bob 10 merch rhwng 14 a 21 oed yng ngwledydd Prydain yn methu â fforddio eitemau misglwyf.

“Gwneud gwahaniaeth”

“Mae’n dorcalonnus clywed storïau am ferched sy’n peidio â chael eu haddysg oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol yn ystod eu misglwyf, felly mae’n glir bod rhaid gwneud rhywbeth yn ei gylch,” meddai Amber Treharne, merch 15 oed o Borth Tywyn sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

“Dw i’n gobeithio bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth yn Sir Gaerfyrddin fel ein bod yn gallu cymryd cam yn agosach at roi terfyn ar dlodi misglwyf unwaith ac am byth.”

Cafodd yr ymgyrch ei lansio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn Neuadd y Sir yr wythnos hon (nos Fercher, Ebrill 10).